Cynorthwyydd Hamdden (Canolfan Chwaraeon)
£6.56 – £8.91 Per Hour
5-10 awr yr wythnos
23:59, 03/10/2021
Dyma gyfle gwych i Gynorthwyydd Hamdden ymuno â thîm brwdfrydig ac egnïol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio tua 5-10 awr yr wythnos dros benwythnos mewn rôl hwyliog a phleserus.
Dan arweiniad y Rheolwr a’r Goruchwyliwr Dyletswydd, byddwch yn gyfrifol am weithredu’r Ganolfan Chwaraeon sydd wedi’i leoli ar gampws bywiog Tycoch.
Bydd eich cyfrifoldebau’n cynnwys goruchwylio partïon plant (wrth redeg), hyfforddi gweithgareddau a chynnal sesiynau cyflwyno i’r gampfa. Byddwch hefyd yn gosod ac yn datod offer, yn ogystal â chyflawni dyletswyddau cadw ty megis glanhau a diogelwch.
Bydd gennych 5 cymhwyster TGAU (graddau A-C) neu’r cyfwerth a sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol. Mae tystysgrif hyfforddi chwaraeon yn ddymunol yn yr un modd â chymhwyster cymorth cyntaf.
Os ydych chi’n credu eich bod yn meddu ar y sgiliau uchod, cysylltwch â ni!
Ni cheir ceisiadau Cymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau Saesneg.
Mae Coleg Gwyr Abertawe yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles pobl ifanc ac yn disgwyl i’r holl staff rhannu’r ymrwymiad hwn. Bydd penodiadau eu gwneud ar sail gwiriad DBS manylach a bydd gofyn i chi ymaelodi â Chyngor Gweithlu Addysg Cymru.
Fel rheol, bydd penodiadau yn cael eu gwneud ar waelod y raddfa gyflog gyda chynyddrannau blynyddol ar 1 Awst bob blwyddyn (ar yr amod eich bod wedi cwblhau 6 mis o wasanaeth).
Leave a Reply
Want to join the discussion?Feel free to contribute!