Insert moodle poll code here if possible
Special vote
What special would you like on the menu next week?
Cwestiynau Cyffredin
Rydyn ni wedi llunio rhestr ddefnyddiol o Gwestiynau Cyffredin i ateb rhai o’ch cwestiynau am y Coleg.
Ddim yn gallu gweld eich cwestiwn yma? Gofynnwch i maria.pollard@gcs.ac.uk a dodi ‘Cwestiynau Cyffredin’ yn y llinell bwnc.
Dwi wedi anghofio fy nghyfrinair, sut ydw i’n cyrchu fy nghyfrif?
Os ydych wedi anghofio’ch cyfrinair, gofynnwch i’ch darlithydd neu’ch tiwtor. Byddant yn ei ailosod i chi neu yn gofyn i chi gysylltu â’r adran TG.
Dwi wedi anghofio fy enw defnyddiwr, sut ydw i’n cyrchu fy nghyfrif?
Mae’r enw defnyddiwr ar gyfer eich cyfrifiadur yr un peth â’ch rhif adnabod y coleg. Os nad oes gennych eich rhif adnabod y coleg, mae’r llyfrgell yn darparu rhifau adnabod newydd am dâl.
Ble alla i ddod o hyd i’r adran gwasanaethau myfyrwyr?
Fel rheol mae gwasanaethau myfyrwyr i’w cael yn agos at y dderbynfa ger y brif fynedfa i unrhyw gampws. Os nad ydych yn siŵr o hyd, gofynnwch i rywun yn y dderbynfa.
Ble alla i brynu cinio?
Mae’n beth doeth dod â’ch cinio’ch hun i’r Coleg oherwydd mae’n bosibl y bydd rhai gwasnaethau arlwyo ar gau.
Faint o’r gloch mae’r Coleg yn agor?
Mae’r coleg yn agor am 8:30AM.
Sut ydw i’n cyrraedd y Coleg?
Yn nodweddiadol un ffordd o gyrraedd y Coleg fydd mewn bws neu gar. I gael gwybodaeth am gampws penodol, siaradwch â staff gwasanaethau myfyrwyr ger y dderbynfa.
Dydy fy nhocyn bws ddim yn gweithio. Beth ddylwn i ei wneud?
Ewch i’r adran Gwasanaethau Myfyrwyr, bydd y staff yno yn gallu eich helpu.
Sut ydw i’n cael benthyg gliniadur o’r llyfrgell?
Gofynnwch am liniadur yn y llyfrgell a gwnewch yn siŵr bod eich cerdyn adnabod y coleg gennych. Bydd staff y llyfrgell yn gwneud nodyn o’ch benthyciad felly cofiwch ei ddychwelyd.
Noder: Dim ond yn y llyfrgell y gellir defnyddio’r gliniadur llyfrgell a fenthycwyd gennych.
Beth yw Undeb y Myfyrwyr?
Mae Undeb y Myfyrwyr yn rhan o’r Coleg sy’n cynrychioli myfyrwyr unigol. Mae’n blaenoriaethu rhoi llais i fyfyrwyr dros faterion myfyrwyr ac yn helpu i sefydlu cymdeithasau y mae myfyrwyr yn awyddus i’w cael. Gallwch chi ddechrau’ch taith mewn Gwleidyddiaeth Myfyrwyr trwy fod yn Gynrychiolydd Dosbarth. Gallwch symud ymlaen wedyn o’r rôl honno.
Beth yw CGA Egnïol?
Mae CGA Egnïol yn creu gweithgareddau y gallwch chi gofrestru arnyn nhw drwy ofyn i’ch darlithydd. Mae hyn yn cael ei wneud rhwng eich seibiannau fel nad ydych yn colli darlithoedd.
Pa weithgareddau allgyrsiol y mae’r Coleg yn eu darparu?
Mae Undeb y Myfyrwyr ynghyd â CGA Egnïol yn trefnu gweithgareddau allgyrsiol.
Mae CGA Egnïol yn creu gweithgareddau y gallwch chi gofrestru arnyn nhw drwy ofyn i’ch darlithydd. Mae hyn yn cael ei wneud rhwng eich seibiannau fel nad ydych yn colli darlithoedd.
Mae Undeb y Myfyrwyr yn creu cymdeithasau â diddordeb myfyrwyr. Mae hyn yn golygu, os oes gennych ddiddordeb mewn sefydlu cymdeithas (e.e.: LGBTQ, cymdeithasau amgylcheddol) gofynnwch i’ch darlithydd neu gysylltu â Llywydd Undeb y Myfyrwyr yma.
Ble ydw i’n cael hyd i ystafell ffydd?
Gallwch gael hyd i ystafelloedd ffydd trwy ofyn i staff y dderbynfa, eich darlithydd neu’r staff yn yr ystafell gyffredin.
Pwy sy’n rhan o Undeb y Myfyrwyr?
Mae Cynrychiolwyr Dosbarth a GRhUM yn rhan o lais/gwleidyddiaeth Undeb y Myfyrwyr.
Mae Cynrychiolwyr Dosbarth yn cynrychioli dosbarthiadau unigol ac mae GRhUM yn cynrychioli adrannau. I fod yn rhan o GRhUM mae angen i chi fod yn Gynrychiolydd Dosbarth yn gyntaf.
Mae GRhUM yn sefyll am ‘Grŵp Rheoli Undeb y Myfyrwyr’. Dyma grŵp o aelodau sy’n cynrychioli adrannau’r Coleg fel peirianneg a ffotograffiaeth. Byddwch chi’n gwybod rhagor am GRhUM yn y cyfarfodydd cynrychiolwyr dosbarth.