Welcome from Kelly Fountain, our new College Principal

Croeso i Kelly

Mae dyfodiad ein Pennaeth newydd, Kelly Fountain, heddiw yn nodi cyfnod newydd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Mae Kelly yn cymryd yr awenau gan Mark Jones, a fydd yn parhau fel Prif Swyddog Gweithredol y Coleg â chyfrifoldeb am strategaethau allweddol y Coleg a datblygu partneriaethau allweddol a busnes newydd.

Bydd rôl newydd Kelly yn rhoi capasiti ychwanegol i uwch dîm arweinyddiaeth y Coleg yn ystod cyfnod o newid mawr a bydd yn agor nifer o gyfleoedd newydd o fewn cymuned y Coleg.

Fel Pennaeth, bydd Kelly â chyfrifoldeb cyffredinol am y gweithrediadau dyddiol ar draws chwe champws y Coleg.

Mae Kelly yn falch o ddechrau, ac meddai: “Dwi wrth fy modd o gael fy mhenodi yn Bennaeth newydd i chi, gan weithio ochr yn ochr â Mark ac aelodau eraill o uwch dîm arweinyddiaeth y Coleg. Dwi’n edrych ymlaen at adeiladu ar enw ardderchog y Coleg ar draws amrywiaeth o feysydd gan gynnwys profiad y myfyriwr, ansawdd, gweithio gyda diwydiant, a lles.”

Meddai Mark: “Mae Kelly yn dod â llawer iawn o brofiad i’r Coleg a dwi’n gyffrous ynghylch yr hyn y gallwn ni geisio ei gyflawni ymhellach gyda’r profiad a’r adnodd ychwanegol hwn.”

Dros yr wythnosau nesaf, bydd Kelly ar hyd y lle yn cwrdd â staff a myfyrwyr o gwmpas y campysau.

Yn y cyfamser, mae Kelly wedi gwneud fideo croeso byr i’r holl ddysgwyr lle mae’n cyflwyno ei hun ac yn sôn am rai o’i blaenoriaethau allweddol wrth symud ymlaen.

Welcome to Kelly   

Today marks a new era at Gower College Swansea with the arrival of our new Principal, Kelly Fountain.

Kelly takes on the role from Mark Jones, who will continue as the College’s Chief Executive Officer with responsibility for the College’s key strategies and the development of new business and key partnerships.

Kelly’s new role will provide the College’s senior leadership team with additional capacity at a time of great change and will also open up many new opportunities within the College community.

As Principal, Kelly will have overall responsibility for the daily operations across the College’s six campuses.

Kelly is delighted to start, and says: “I am thrilled to be appointed as your new Principal, working closely alongside Mark and the other members of the College’s senior leadership team. I am looking forward to building on the College’s excellent reputation across a range of areas including student experience, quality, working with industry, and wellbeing.”

Mark says: “Kelly brings a huge amount of experience to the College and I am excited about what we can look to further achieve with this additional experience and resource.”

Over the coming weeks, Kelly will be out and about meeting staff and students around the campuses.

In the meantime, Kelly has made a short welcome video for all learners where she introduces herself and talks about some of her key priorities going forward.