Waste legislation changes  Newidiadau i’r ddeddfwriaeth gwastraff

Waste legislation changes ♻️ Newidiadau i’r ddeddfwriaeth gwastraff

What: The Welsh Government are introducing a new ‘Separate waste collections for workplace’s’ legislation that will require all workplaces to separate recyclable materials in the same way that we do at home.

From 6th April it will become law for all businesses, including colleges, to segregate paper & card, plastic & cans, glass, food (in areas that produce more than 5kg per week) and textiles. Waste contractors such as Biffa are required to have the correct infrastructure in place to facilitate separate collections.

Purpose of legislation: To improve the quality and quantity of recycling across Wales and help deliver Wales’s commitments to reach zero waste and reduce carbon emissions by 2050.

What does this mean to GCS?

From Monday 19th February 2024, Gower College Swansea will implement the below changes in line with the new legislation.

Changes to classroom and office bins

  • Individual waste bins will be removed from standard classrooms and offices across all campuses
  • Waste bins will remain in place in the below areas due to specific waste needs. Additional recycling bins will be put in place where required
  • Science labs, Arts workshops, Hospitality kitchens, Engineering, and Motor Vehicle workshops
  • Additional recycling stations will be installed across each campus to ensure waste disposal points are within easy reach of all areas
  • Any existing recycling stations within classrooms, offices or staffrooms will remain in place.

Implementation of food waste

  • Food caddies will be installed across staffrooms and/kitchenettes with a high footfall. To find which staffrooms are included click here
  • Food caddies will be emptied (and sacks replaced) by the designated cleaner in each area
  • Staffrooms/kitchenettes that are not provided with a food caddy should continue to dispose of small quantities of food, such as tea bags and fruit/veg peelings, in the closest general waste bin.

External waste areas

Separate external waste bins will be available for plastic & cans and paper & card. These will be clearly marked. Any staff members responsible for disposing of waste in the external bins must ensure waste is disposed in the correct bin

What does this mean to me?

  • From Monday 19th February 2024, you will need to dispose of your waste and recycling in one of our 178 centralized recycling stations, instead of your office or classroom bin
  • Staff and students at GCS have a joint responsibility to ensure waste is separated in line with the new legislation. We ask you to ensure all recycling material is disposed in the relevant bin at the recycling stations provided
  • We ask that you support students with these changes, encouraging them to take waste with them after class and dispose in the relevant recycling bin.

How our actions can have a positive impact

It’s estimated that as much as 70% of the waste in an individual waste bin is recyclable. That means, up to 70% of your classroom or office recycling is currently ending up in landfill.

By banning the bin and switching to recycling stations we will prevent precious recycling from ending up in landfill, helping to increase our recycling rate and in-turn reduce our carbon footprint.

For any questions, queries or further information please contact our Environment & Sustainability Advisor

E: laura.wilkins@gcs.ac.uk

T: 07823 39014001792 284482

***

Beth: Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth newydd ‘Casgliadau gwastraff ar wahân i weithleoedd’ sy’n golygu y bydd yn ofynnol i bob gweithle wahanu deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn yr un ffordd ag yr ydym yn ei wneud gartref.

O 6 Ebrill, bydd yn dod yn gyfraith i bob busnes, gan gynnwys colegau, wahanu papur a chardbord, plastig a chaniau, gwydr, bwyd (mewn meysydd sy’n cynhyrchu mwy na 5kg yr wythnos) a thecstilau. Mae’n ofynnol i gontractwyr gwastraff fel Biffa fod â’r strwythur cywir yn ei le i hwyluso casgliadau ar wahân.

Pwrpas y ddeddfwriaeth: Gwella ansawdd a maint ailgylchu ledled Cymru a helpu i gyflawni ymrwymiadau Cymru i gyrraedd targed dim gwastraff a lleihau allyriadau carbon erbyn 2050.

Beth mae hyn yn ei olygu i CGA?

O ddydd Llun 19 Chwefror 2024, bydd Coleg Gŵyr Abertawe yn gweithredu’r newidiadau isod yn unol â’r ddeddfwriaeth newydd.

Newidiadau o ran biniau ystafelloedd dosbarth a swyddfeydd:

  • Bydd biniau gwastraff unigol yn cael eu symud o ystafelloedd dosbarth a swyddfeydd safonol ar draws yr holl gampysau
  • Bydd biniau gwastraff yn aros yn y mannau isod oherwydd anghenion gwastraff penodol. Bydd biniau ailgylchu ychwanegol ar gael pan fydd angen
  • Labordai gwyddoniaeth, gweithdai celf, ceginau lletygarwch, peirianneg, a gweithdai cerbydau modur
  • Bydd gorsafoedd ailgylchu ychwanegol yn cael eu gosod ar draws pob campws i sicrhau bod mannau gwaredu gwastraff o fewn cyrraedd hawdd i bob ardal
  • Bydd unrhyw orsafoedd ailgylchu presennol mewn ystafelloedd dosbarth, swyddfeydd neu ystafelloedd staff yn aros yn eu lle.

Gwastraff bwyd

  • Bydd cadis bwyd yn cael eu gosod ar draws ystafelloedd staff a cheginau bach prysur. I weld pa ystafelloedd staff sydd wedi’u cynnwys cliciwch yma cliciwch yma
  • Bydd y glanhawr penodedig ym mhob ardal yn gwagio’r cadis bwyd (a newid y sachau)
  • Dylai ystafelloedd staff/ceginau bach sydd heb gael cadi bwyd barhau i gael gwared ar feintiau bach o fwyd, fel cwdynnau te a philion ffrwythu a llysiau, yn y bin gwastraff cyffredinol agosaf.

Mannau gwastraff allanol

Bydd biniau gwastraff allanol ar wahân ar gyfer plastig a chaniau a phapur a chardbord. Bydd y rhain wedi’u marcio’n glir. Bydd rhaid i unrhyw aelodau o staff sy’n gyfrifol am waredu gwastraff yn y biniau allanol sicrhau eu bod yn defnyddio’r bin cywir.

Beth mae hyn yn ei olygu i mi?

  • O ddydd Llun 19 Chwefror 2024, bydd rhaid i chi gael gwared ar wastraff ac ailgylchu yn un o’n 178 o orsafoedd ailgylchu canolog, yn lle eich bin swyddfa neu ystafell ddosbarth
  • Mae gan staff a myfyrwyr CGA gydgyfrifoldeb i sicrhau bod gwastraff yn cael eu gwahanu yn unol â’r ddeddfwriaeth newydd. Gofynnwn i chi sicrhau bod yr holl ddeunyddiau ailgylchu yn cael eu gwaredu yn y bin perthnasol yn y gorsafoedd ailgylchu a ddarparwyd
  • Gofynnwn i chi gefnogi myfyrwyr gyda’r newidiadau hyn, a’u hannog i fynd â gwastraff gyda nhw ar ôl y dosbarth a’i waredu yn y bin ailgylchu perthnasol.

Sut y gall ein gweithredoedd gael effaith bositif

Amcangyfrifir bod cymaint â 70% o’r gwastraff mewn bin gwastraff cyffredinol yn ailgylchadwy. Mae hyn yn golygu bod hyd at 70% o’ch deunyddiau y gellir eu hailgylchu o’ch ystafell ddosbarth neu’ch swyddfa yn mynd i safle tirlenwi ar hyn o bryd.

Trwy gael gwared ar finiau a newid i orsafoedd ailgylchu byddwn yn atal deunyddiau gwerthfawr y gellir eu hailgylchu rhag mynd i safle tirlenwi, gan helpu i gynyddu ein cyfradd ailgylchu, ac yn ei dro, leihau ein hôl troed carbon.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ymholiadau neu os hoffech wybod rhagor, cysylltwch â’n Cynghorydd Amgylchedd a Chynaliadwyedd

E: laura.wilkins@gcs.ac.uk
Ff: 07823 39014001792 284482

0 replies

Leave a Reply

Want to join the discussion?
Feel free to contribute!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *